Beth yw ‘coaching’ yn Gymraeg?
Dwy wedi bod yn ‘coach ‘am ychydig o flynyddoedd bellach, ac er meddwl a phendroni, a holi eraill, dwy ddim yn gallu dod o hyd i air addas a priodol am COACHING.
Dydi’r gair hyfforddi ddim yn adlewyrchu na chyfleu ystyr y broses o ‘coaching’ a dwy ddim yn hapus gyda’r term sydd yn cael ei ddefnyddio fel arfer. Dyma pam …
Hyfforddi
Mae hyfforddi yn golygu ‘training’. Falle bod elfennau o hyfforddi yn dod i mewn i’r broses ar brydiau – ond un peth pwysig am coaching yw bod y coach DDIM yn dweud na dysgu, na hyfforddi! Y sgil, y tric yw cydnabod bod gan y client y doethineb, y gallu, y sgiliau a’r adnoddau i ddatrys ei phroblemau ei hun; i ddarganfod y ffordd ymlaen. Felly – dwy ddim yn hyfforddi pobl na rhoi cyngor. Dwy ddim yn cwnsela chwaith.
Hyfforddi Bywyd
Sef ‘life coaching’. Mae hyn yn golygu trafod a dod o hyd i ffordd ymlaen (dwy ddim yn defnyddio’r gair problem yn bwrpasol)
• Cael cydbwysedd bywyd personol a professional
• Falle delio gyda gôr bryderu
• Iselder a darganfod pwrpas mewn bywyd
• Newidiadau – newid gyrfa
• Gwneud penderfyniadau – bach a mawr
Hyfforddi Gweithredol/Proffesiynol
Sef gweithio gyda phobl broffesiynol, yn aml mewn swydd rheoli ac uwch rheoli. Bydd cyfrifoldebau gan y bobl yma – rhai yn gweithio yn y cyfryngau, doctoriaid, athrawon, darlithwyr, gwyddonwyr, perchennog busnes, rheolwyr yn y sector gwirfoddol, cyfreithwyr er enghraifft.
Mae’r pynciau sydd yn codi yn cynnwys:
- Dim yn teimlo’n deilwng
- Cyfathrebu
- Pwysau Gwaith
- Llosgi-allan
- Hunan ofal
- Cydbwysedd gwaith a bywyd cartref
- Delio gyda phobl anodd
- Blaenoriaethau
Ar yr un pryd byddwn yn ystyried y person cyflawn, sef lles, iechyd a thawelwch meddwl.
Hyrwyddo
Mae elfen gryf o hyrwyddo a hybu mewn ‘coaching’. Mae’r broses yn anelu at roi a chynyddu cymhelliant trwy mewnweliad ac eglurdeb.
Gall ddarganfod, neu ail-ddarganfod pwrpas fod yn ffocws neu yn ganlyniad i’r brocess; ac mae trafod ystyr yn hanfodol fel ysgogiad i sumud ymlaen yn bositif.
Annog a Hybu
Chi, y client sydd yn arwain y broses. Rwy’n annog a hybu chi fel eich bod yn cyrraedd eich uchelgais gwaredu’r delfryd, a chamu ymlaen ar y trywydd chi eisiau troedio. Gobeithiaf, a gweithiaf tuag at danio sbarc a help chi i flaguro.
Cefnogaeth
Byddaf yn gefn i chi, beth bynnag. Chi yw’r person mwyaf pwysig a’ch agenda chi sydd yn y canol, sydd yn bwysig. Cawn ffonio ac e-bostio rhwng sesiynau os fydd eisiau.
Partneriaeth
Perthynas cytbwys yw’r perthynas yn coaching. Ni’n gweithio gyda’n gilydd. Mae yna gytundeb. Ar y cychwyn bydd rhaid cytuno cytundeb ffurfiol fel sail dealltwriaeth a fframwaith cadarn. Parch, onestrwydd, parodrwydd a dibynadwyedd yw rhai o’r elfennau sylfaenol wrth wraidd y perthynas a’r broses.
Ffrwyth y Broses
Chi sydd yn gwneud y gwaith a fydd yn arwain tuag at drawsnewidiaeth a thwf. Chi bydd yn dysgu yn cynyddu’r adnoddau mewnol. Chi bydd yn cael eglurdeb ac o ganlyniad yn disgleirio. Chi caiff yr hunanhyder a hunan-barch a’r hunan ymwybyddiaeth i fyw bywyd boddhaus a hapus.
Felly …
Oes yna air addas ar gyfer coaching yn Gymraeg? Syniadau yma, dros Twitter neu ar cerdyn post plîs.