Skip links

 

Beth bynnag yr ydych yn mynd drwyddo, pa newidiadau bynnag yr ydych am eu gwneud, gallwn weithio gyda’n gilydd i greu posibiliadau ar gyfer bywyd mwy boddhaus, yn unol â’r hyn sy’n bwysig i chi.

Mae’r hyfforddiant /coaching wedi’i gynllunio o’ch cwmpas.

Beth am drefnu galwad ffôn cychwynnol 30 munud am ddim? Cysylltwch â mi nawr

Opsiynau

1 Sesiwn

Angen eglurder neu gefnogaeth arnoch yn gyflym? Efallai mai ychydig o sesiynau sydd angen.

Mae’r sesiwn gyntaf fel arfer o leiaf 2 awr o hyd.

Gellir trefnu sesiynau dilynol.

6 Sesiwn

Mae’r sesiwn gyntaf yn 2 awr o leiaf ac mae’r sesiynau canlynol rhwng 1 ac 1.5 awr – tua 9 awr o hyfforddi.

Bydd adnoddau a gwaith i wneud yn eich amser eich hun. Gallwn hefyd drafod galwadau ffôn cymorth.

Gallwn gwrdd mewn siopau coffi neu ar-lein neu gymysgedd, fel sy’n addas i chi.

Pecynnau wedi eu trefnu ar eich cyfer

Trefnir sesiynau hyfforddi i weddu i’ch sefyllfa a’ch anghenion.

Gallaf weithio gyda chi dros gyfnod hir neu’n ddwys dros gyfnod byr.

Mae ffioedd hyfforddi tymor-hir ar gyfradd is.

Gweithio gyda’n gilydd

Mewn sesiwn rhagarweiniol gallwn siarad am sut y gallwn weithio gyda’n gilydd.

TREFNU GALWAD