Skip links

Helo, Alyson ydw i,
Gallaf fod yn gefn ac yn gydymaith i chi wrth i chi ddysgu ffyrdd newydd o feddwl a gweithredu, wrth i chi ddarganfod eich potensial a’r posibiliadau ar gyfer eich dyfodol.

Amdanaf i

Ydych chi’n cael trafferth gyda rhyw agwedd o’ch bywyd? Ydych chi’n sownd mewn patrymau ymddygiad a meddwl sy’n negyddol ac yn boenus?

Meddwl gwasgaredig, gorsensitif, unig, ynysu, pryderus, methu â gwneud penderfyniadau, emosiynol, ofnus?

Efallai bod gennych ADHD neu eich bod yn cael trafferth gyda’r canlyniad o blentyndod anodd – efallai eich bod yn defnyddio alcohol.

Beth bynnag … gallwch gysylltu â mi am sgwrs anffurfiol ac i ddarganfod beth mae ‘coaching’ yn ei olygu a beth all arwain ato.

Rwyf wedi bod ar daith adferiad ers dros 20 mlynedd, ac wedi gweithio gyda llawer o bobl a’u cefnogi – mentora, noddi, addysgu, a hyfforddi mewn gwahanol gyd-destun.

Mae fy null yn cwmpasu gwybodaeth o wahanol feysydd – mae’n ddull sydd yn cwmpasu meddwl, calon a chorff, mae’n integredig ac yn gyfannol.

Mae fy null yn cwmpasu gwybodaeth ac arferion o wahanol feysydd – mae’n ddull integredig ac yn gyfannol.

Rwy’n hyfforddi gyda chalon ac asgwrn-cefn. Gallaf eich cefnogi, eich cymell a’ch ysbrydoli. Mae datblygu hunan-dosturi, dewrder a chysylltiad yn gynhwysion yn y cymysgedd adfer.

Amdanaf i

Hyfforddi/Coaching ar gyfer …

PTSD Cymhleth

– Plentyndod anodd

Mae 1 mewn bob 5 ohonom yn dioddef gyda symptomau anhwylder a straen wedi Trawma Cymhleth/Plentyndod.

Os oedd eich plentyndod yn un o esgeulustod emosiynol, bychanu, neu thrais, efallai eich bod yn cael anawsterau a thristwch sydd wedi eich dilyn am flynyddoedd.  Daw effeithiau ein profiadau gyda ni i bob rhan o’n bywydau gan gynnwys y gweithle a’n perthnasoedd. Gall, ar adegau, greu hafoc.

Mwy …

Adferiad o Alcohol

Ydych chi’n cael trafferth gydag ymddygiadau caethiwus? Ydych chi’n defnyddio alcohol i fferru teimladau ac emosiynau?

Gall hyfforddi helpu p’un a’i os ydych newydd gydnabod y mater neu os ydych ar daith adferiad, ond yn cael trafferth. Gallaf eich hyfforddi/coach wrth i chi ddysgu byw yn wahanol.

Mwy …

ADHD

Rwy’n hyfforddwr ADHD ardystiedig

Gallech fod yn cael trafferth gydag ystod eang o faterion megis – yn eich swydd, eich cartref, angen help gyda’ch gyrfa, sefydlu busnes ac angen canolbwyntio, ymdopi yn gyffredinol. Beth bynnag …
gall hyfforddi helpu.

Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu strategaethau, a technegau i'ch helpu i gadw’ch cymhelliant,

cynnal ffocws a rheoli emosiynau.

Mwy …

Adferiad ar ôl trawma plentyndod – PTSD Cymhleth

Mae PTSD Cymhleth yn gysylltiedig â PTSD (Post Traumatic Stress Disorder) ond nid yw o ganlyniad i un neu ychydig o ddigwyddiadau trawmatig iawn. Mae PTSD Cymhleth o ganlyniad i drawma mwy cyson yn ystod plentyndod (rhwng 0 a 15 oed fel arfer). Gall fod yn esgeulustod emosiynol, yn bychanu, bwlio, diffyg cariad a gofal, dicter, trais, neu fod yn dyst i drais er enghraifft. Profir y trawma fel arfer dros gyfnodau hir o amser.

Peidiwch â gadael i’ch plentyndod eich dal yn ôl. Gallwch wella – Gallwch deimlo’n gyfan, iach a hapus.

Gwasanaethau

Rhai symptomau CPTSD

  1. Diffyg ymlacio
  2. Hunanddelwedd wael
  3. Chi’n cael eich denu at bobl nad ydyn nhw ar gael yn emosiynol.
  4. Trafferth rheoli’ch emosiynau.
  5. Chi’n ynysu ac yn daduno oherwydd eich bod yn ffeindio pobl eraill yn anodd.
  6. Teimladau cyson o wacter neu anobaith – hyd yn oed os ydych yn llwyddiannus.
  7. Chi’n ymddwyn yn ddinistriol neu’n beryglus, er enghraifft, hunan-niweidio, camddefnyddio alcohol neu gamddefnyddio cyffuriau
  8. Tueddol orweithio er mwyn cadw’n brysur i ddianc oddi wrth eich teimladau a meddyliau.
  9. Mae pethau’n mynd yn dda ac yna chi’n rhedeg i ffwrdd neu’n ymddwyn yn ddinistriol (self- sabotage).
  10. Anaml y byddwch yn teimlo’n ddiogel. Chi’n teimlo y gallai rhywbeth ofnadwy ddigwydd ar unrhyw funud, ac felly rydych chi’n or-wyliadwrus.
EFA

Rwy’n cynnig hyfforddiant unigol i fenywod, ac yn cynnal digwyddiad i fenywod – ar-lein a rhai byw. Maent yn seiliedig ar egwyddorion Lles a Coaching /hyfforddi; maent yn anffurfiol, yn rhyngweithiol ac yn hwyl.

Gweler y dudalen EFA Cysylltwch â mi i ddarganfod mwy.

O’r Blog

Twitter

Trefnwch Sesiwn Ddarganfod AM DDIM

Trefnu Galwad