
Gwn fod trawsnewidiadau yn bosib trwy’r profiad o weithio gydag eraill a thrwy dros 20 mlynedd o adferiad. Yr hyn sydd yn fy ysgogi i weithio gyda chi.
Rwyf wedi gweithio mewn nifer o swyddi, gan gynnwys addysgu oedolion, arwain a rheoli prosiectau, ymchwil, celfyddydau cymunedol, addysg amgylcheddol, ac wrth gwrs hyfforddi/coaching.
Rwyf gyfarwydd iawn â gweithio ar-lein. Dysgais ar-lein mewn prifysgol yng Nghanada ac mae’r profiad hwn wedi fy helpu i weithio o bell gyda chleientiaid a grwpiau.
Rwy’n hapus i gynnal yr hyfforddi yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Addysgwr hyfforddedig, hyfforddwr a mwy


- Hyfforddwr Gweithredol achrededig ILM (lefel 7)
- Hyfforddwr ADHD ardystiedig
- Hyfforddwr NLP (rhaglennu niwroieithyddol)
- PhD mewn Addysg Oedolion
- Mae gen i brofiad o weithio o bell, gan ddefnyddio gwahanol dechnolegau i gysylltu.

- Yn hyfforddi yn y Gymrag neu yn ddwyieithog



Fy Mhrofiad a’m Dull
Un tro, roedd bywyd yn adnodd iawn wrth i mi frwydro gyda symptomau ag etifeddiaeth profiadau plentyndod (PTSD Cymhleth), gan gynnwys defnyddio alcohol. Un diwrnod penderfynais fy mod eisiau newid; Doeddwn i ddim eisiau byw fel yna bellach – yn unig ac yn ddiflas.
Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud, ond des i o hyd i ffordd ymlaen, fesul tipyn, o ddydd i ddydd. Roedd yn rhaid i mi ddatgymalu’r gragen roeddwn wedi’i hadeiladu o’m hamgylch, a gan ddefnyddio offer a thechnegau, a dysgu o wybodaeth, cariad, cefnogaeth a doethineb pobl eraill daeth bywyd gwell i’r golwg.
Rwy’n falch fy mod wedi gwneud y newid – byddwch chithau hefyd.
Dysgu a Newid Safbwynt
Nid oes rhaid i newid fod yn araf ac yn boenus. Bydd hyfforddi/coaching yn eich helpu i ddarganfod beth sy’n eich dal yn ôl, ac fe ddewch i weld a defnyddio’r adnoddau a’r cryfderau sydd gennych eisoes, fel y gallwch ymdopi’n haws â bywyd a dysgu sut i’w fwynhau!


Presenoldeb a Phartneriaeth
Mae hyfforddi/coaching yn bartneriaeth. Ni’n gweithio gyda’n gilydd mewn perthynas sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, gan ganolbwyntio ar yr hyn rydych chi am ei gyflawni.
Mae gen i ymarfer myfyrio ac yn mynychu encilion distaw fel y gallaf fod yn bresennol i chi.
Byddaf yn rhannu safbwyntiau a thechnegau syml, ymarferol gyda chi er mwyn eich galluogi i fyw bywyd llawnach, hapusach.
Rwy’n integreiddio NLP (Rhaglennu Niwro-Ieithyddol) a Hyfforddiant Somatig yn fy ngwaith fel y bo’n briodol.