Skip links

 

EFA

Mae gen i gyfoeth o brofiad ar ôl gweithio mewn gwahanol rolau, gan gynnwys arwain a rheoli prosiectau cymhleth, dysgu oedolion, ymchwil, celfyddydau cymunedol ac addysg amgylcheddol. Yn ddiweddar bûm yn dysgu mewn Prifysgol yng Nghanada – ar-lein wrth gwrs! Mae’r profiad hwn wedi fy helpu i weithio o bell ac ar-lein gyda chleientiaid a grwpiau.

Hapus i weithio yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Sut gallwn weithio gyda’n gilydd?

6 Sesiwn

6 Mis

Rhaglen wedi ei gynllunio ar gyfer eich anghenion

Ffordd o Weithio

Dysgu a Newid Persbectif

Wrth i ni ddysgu rydyn ni’n newid ac yn tyfu. Nid oes rhaid i’r newid hwn fod yn araf ac yn boenus. Bydd coaching yn eich helpu i ddarganfod beth sy’n eich dal yn ôl, ac fe ddewch yn ymwybodol o’r adnoddau a’r cryfderau sydd gennych eisoes, fel y gallwch ymdopi’n haws â gofynion bywyd … a hyd yn oed fwynhau’r daith!

Presenoldeb a Phartneriaeth

Mae partneriaeth yn ganolog i coaching. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd mewn perthynas sy’n seiliedig ar ymddiried. Mae’r broses yn canolbwyntio ar yr hyn rydych chi am ei gyflawni.

Mae gen i ymarfer myfyrdod ac rydw i’n mynychu encilion distaw; mae hyn yn fy helpu i fod yn fwy presennol.

Rwyf wedi byw gyda PTSD Cymhleth, ac yn deall sut i oresgyn hynny. Mae 1 o bob 5 ohonom yn dioddef o hyn, p’un ai ydym yn ei wybod ai peidio. Efallai eich bod yn llwyddiannus mewn busnes neu yn eich gyrfa, ond os oes gennych PTSD Cymhleth bydd teimlad anghyfforddus yn peri anawsterau annealladwy. Rwyf wedi darganfod technegau a safbwyntiau y gallaf eu rhannu gyda chi i’ch galluogi i fyw bywyd llawnach a hapusach.

Mae rhai o’r technegau rydw i’n eu hintegreiddio i’m hyfforddiant un seiliedig ar NLP (Rhaglennu Niwro-Ieithyddol) a Hyfforddi Somatig.

NLP – gweithio gydag iaith a’n patrymau arferol o feddwl a gweithredu.

Mae hyfforddi somatig yn cynnwys gweithio gyda phob agwedd o’ch deallusrwydd gan gynnwys  y corff ac emosiynau yn ogystal â rhesymeg.

O’r Blog