Skip links
EFA

EFA – gwahoddiad i gysylltu â’r hyn sy’n bwysig i chi.

  • Coaching unigol i fenywod &
  • Cyrsiau a Grwpiau Llesiant (ar-lein ac yn fyw!)
Mwy o wybodaeth

Hyfforddiant Unigol

Mae’r coaching yn cael ei greu o’ch amgylch

Eich agenda a’ch nodau chi sydd yn fy arwain.

Beth bynnag fo’ch rheswm dros feddwl am coaching/hyfforddi – yn sownd, ddim cymhelliant, yn anfodlon yn eich gwaith, angen gwneud penderfyniad pwysig, eisiau mwy o bwrpas, dechrau o’r newydd, problemau gyda’ch iechyd….  beth bynnag y broblem, gall coaching/hyffforddi eich helpu i ddatblygu eglurder a magu hyder.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth – mae’n golygu ymrwymiad ar y ddwy ochr. Gallaf fod yn gydymaith i chi wrth i chi ddysgu, newid a thyfu. Mae gen i brofiad eang o weithio mewn gwahanol rolau a sectorau. Rwy’n fam ac yn nain.

Mae EFA yn cymryd agwedd integredig a chyfannol, yn seiliedig ar wybodaeth ac ymarfer o wahanol ddisgyblaethau a meysydd gwybodaeth.

Digwyddiadau EFA

Mae grŵp bach o fenywod yn dod at ei gilydd i fyfyrio, cysylltu, rhannu a dysgu.

Mae digwyddiadau EFA yn cynnig lle ac amser i chi er mwyn canolbwyntio arnoch chi’ch hun – eich nodau a’ch blaenoriaethau, gyrfa, lles, a’ch bywyd.

Rydym yn canolbwyntio ar faterion pwysig ac yn archwilio cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae themâu yn y gorffennol wedi cynnwys – EFA yn y gweithle ac EFA a materion lles.

Mae menywod profiadol yn eich arwain trwy sesiynau difyr a rhyngweithiol, ac yn rhannu technegau a dulliau defnyddiol fel y gallwch chi gael y gorau o’ch bywyd – personol a phroffesiynol.

Coaching mewn grŵp, ymarferion a gweithgareddau hwyliog, awgrymiadau a thechnegau, rhannu a chysylltu.

Mae EFA yn anffurfiol ac yn gyfeillgar. Ymunwch a ni.

Cysylltwch am sgwrs – ynghylch coaching unigol neu ddigwyddiad EFA

Gallwch holi am EFA drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar y wefan hon.

Gallwch ymweld â thudalen LinkedIn EVE yn  https://www.linkedin.com/company/evewales/

Neu danfonwch neges  hello@alysonjenkins.co.uk

Danfonwch neges nawr

Mae EFA yn gallu eich helpu os …

  • Rydych chi eisiau gwneud newid neu benderfyniad mewn bywyd
  • Mae eich gyrfa yn anfoddhaol
  • Rydych chi’n gofyn “mae’n rhaid bod mwy i fywyd?”
  • Rydych chi eisiau bod yn iach ac yn hapus
  • Rydych chi eisiau mwy o hyder a hunanwerth