Skip links

 

Hyfforddi Grŵp

Fel hyfforddwr profiadol ac ymgynghorydd gwerthuso ac ymchwil, gallaf gynnal sesiynau grŵp i gefnogi newid cadarnhaol. Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i weddu eich anghenion chi.

Er enghraifft, rwyf wedi gweithio gyda byrddau ymddiriedolwyr, timau sy’n sefydlu mentrau / elusennau newydd.

Mae fy null hwyluso yn eich help i egluro gweledigaeth, gwerthoedd, nodau ac amcanion, i gynllunio pwrpas strategol a datblygu systemau. Gallaf cynnal gweminarau / gweithdai penodol i helpu’ch timau gyda materion sy’n ymwneud â pherfformiad a lles yn y gwaith.

Yn ddiweddar rwyf wedi cynnal grwpiau yn edrych ar lles. Gweler www.eve.wales.

Hyblyg ac yn canolbwyntio arnoch chi

Amrywiaeth o becynnau ar gael. Un diwrnod neu hanner diwrnod, neu raglen o sesiynau ar gyfer unigolion neu dimau. Gall hyfforddi fod yn becyn ‘cyfunol’, gan ddefnyddio cymysgedd o ‘dasgau’ ar-lein ac wyneb yn wyneb, ffôn a rhai ‘tasgau’ ar-lein.

1 Sesiwn

Canolbwyntio ar Atebion a’r Ffordd Ymlaen

Gweithdai hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan, i gymell, ysbrydoli a galluogi grwpiau neu dimau. Gallwch symud ymlaen gydag ymdeimlad a phwrpas.

Cyfres o Sesiynau

Galluogi Newid am y Gorau

Mae hyfforddi mewn grŵp yn gallu fod yn effeithiol ac yn bwerus.  Rwy’n cynnig sesiynau ar wahanol themâu, ee. lles yn y gweithle.

Mae hyfforddi tîm yn helpu glynu pobl. Mae timau sy’n cyfathrebu’n dda, yn gweithio gyda’i gilydd yn fwy cynhyrchiol a chyda lefel uwch o foddhad swydd.

Cefnogaeth pwrpasol

Gweithio Gyda chi yn y Tymor Hir

Pecyn pwrpasol sy’n cynnwys hyfforddiant a chymorth wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Gweithio gyda’n gilydd

Mewn sesiwn rhagarweiniol gallwn siarad am sut y gallwn weithio gyda’n gilydd.

Danfonwch neges