Skip links

 

Hyfforddi Bywyd

Beth bynnag rydych chi’n mynd drwyddo, pa bynnag newidiadau rydych chi am eu gwneud, gallwn weithio gyda’n gilydd i greu posibiliadau a datblygu cynllun a thechnegau am ddyfodol disglair.

Mae’r hyfforddi wedi’i ddylunio o’ch cwmpas a gallwch greu bodlondeb a bywyd o lawenydd.

Hyfforddi a Chefnogaeth

Camu i Fyny

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf? Ydych chi’n teimlo bod angen cymhelliant a chyfeiriad arnoch er mwyn creu newid?

Os ydych chi am ffynnu nid goroesi yn unig, yna gall hyfforddi eich helpu i greu posibiliadau a gwireddu’r potensial rydych chi’n gwybod sydd gennych chi.

Sownd?

Chi ddim yn gwybod beth i wneud, nac i ba gyfeiriad i fynd – teimlo’n sownd? Gall fod  mewn swydd, mewn ffordd o feddwl, agwedd neu berthynas er enghraifft. Mae hyn yn gyflwr anodd, ac mae’n teimlo’n amhosib cymryd y cam cyntaf.

Trwy weithio gyda fi cewch archwilio dewisiadau a dysgu strategaethau ar gyfer gwneud newidiadau cadarnhaol.

Gormod?

Oes gormod ar eich plât? Ydych chi’n gor-feddwl? Yn orbryderus? Efallai eich bod yn rhy brysur, yn teimlo o dan bwysau mawr neu’n poeni’n ormodol am eraill.

Gadewch inni archwilio safbwyntiau newydd a datblygu technegau a strategaethau er mwyn creu eglurdeb, hyder a chael tawelwch meddwl.

O Dan?

Os ydyn ni ddim yn cyflawni’r hyn sydd angen, mae yna deimlad annifyr gall arwain at salwch. Efallai bydd iselder, heb egni na chymhelliant. Gall hyn dinistrio cynhyrchiant a chael effaith gwael ar eich perthnasau.

Gallwch ddarganfod neu ail-ddarganfod pwrpas a ffocws. Gallwch brofi llawenydd ac egni mewn gwaith a bywyd bob dydd.

Hyblyg ac yn canolbwyntio arnoch chi

Mae amrywiaeth o becynnau ar gael. 6 sesiwn , neu hyfforddi tymor hir. Gall hyfforddi fod yn becyn ‘cyfunol’, gan ddefnyddio cymysgedd o ‘dasgau’ ar-lein ac wyneb yn wyneb, ffôn a rhai ‘tasgau’ ar-lein. Telir pecynnau ymlaen llaw neu mewn dau randaliad.

6 Sesiwn

CANOLBWYNTIO AR ATEBION A’R FFORDD YMLAEN

O leiaf 10 awr o hyfforddi wyneb-i-wyneb neu ar-lein.

Tymor Hir

NEWID TYMOR HIR

Hyfforddi  er mwyn cefnogi chi trwy cyfnod o newid.
Wyneb-i-wyneb, neu ar-lein; hefyd ffôn ac e-bost i gefnogi eich tyfiant.

Rhaglen wedi ei gynllunio ar gyfer eich anghenion

HYFFORDDI AT GYFER POB AGWEDD O FYWYD.

Hyfforddi wedi ei gynllunio’n bwrpasol ar eich cyfer. Wyneb-i-wyneb, neu ar-lein; hefyd ffôn ac e-bost i gefnogi eich tyfiant.

Gweithio gyda’n gilydd.

Mewn sesiwn rhagarweiniol gallwn siarad am sut y gallwn weithio gyda’n gilydd.

Trefnu Galwad